Mae Cerdd Gwent wrth wraidd creu cerddoriaeth yn Ne Cymru, ac mae’n wasanaeth cerddoriaeth blaenllaw yn y DU.
Rydym yn darparu ansawdd ac ysbrydoliaeth ar bob lefel – o wersi un i un at berfformiadau llawn a digwyddiadau.
Rydym yn Wasanaeth Cerdd Awdurdod Lleol, mewn cydweithrediad ag awdurdodau lleol Casnewydd, Blaenau Gwent, Sir Fynwy a Thorfaen.
Os hoffech ddarllen ein taflen, cliciwch yma.
Mae ein tîm yn gyfeillgar, yn broffesiynol ac yn hawdd mynd ato – rydym yn gerddorion medrus iawn ond yn deall taith dechreuwyr yn iawn. Os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni!