Cerddorfa Linynnol Ieuenctid

Mae Llinynnau Ieuenctid Gwent yn cael eu dewis o blith disgyblion ysgol a myfyrwyr coleg o’r pedwar awdurdod. Yn ogystal â’r brif gerddorfa linynnol, y flwyddyn nesaf, bydd ensemble siambr lai yn cael ei ffurfio. Y safon ar gyfer cael eich dewis ar gyfer y gerddorfa yw gradd 5 neu uwch, a gradd 7 ar gyfer yr ensemble siambr – cysylltwch â ni os hoffech chi gael eich ystyried ar gyfer y grŵp hwn.