Ffurflenni Cais a Gwybodaeth am Arholiadau
Mae ffurflenni cais ar gyfer arholiadau’n cael eu dosbarthu gan diwtoriaid – noder bod angen cymeradwyaeth tiwtor eich plentyn i sefyll arholiad. Os ydych chi wedi colli’r ffurflen arholiad, gallwch glicio ar eicon y bwrdd arholi perthnasol isod i weld ac argraffu un newydd. Fodd bynnag, ni fydd ceisiadau am arholiad yn cael eu derbyn heb gymeradwyaeth tiwtor.
Dilynwch y ddolen hon i gofrestru a thalu am eich arholiad ar wefan Cyngor Dinas Casnewydd; gallwch unai fewngofnodi gyda’ch cyfrif CDC, neu barhau fel gwestai.
Mae’r dyddiadau cau yn derfynol – ac ni fydd cyflwyno taliad ar ôl y dyddiad cau yn golygu y bydd eich cais yn cael ei gymeradwyo.
ABRSM – Theori Cerdd

Dyddiad Cau: Sul, 22 Medi 2019
Dyddiad Arholiad: Mercher, 6 Tachwedd 17:00
ABRSM – Arholiad Ymarferol

Dyddiad Cau: Sul, 20 Hydref 2019
Darpar-ddyddiadau Arholiad: Llun, 9 Rhagfyr tan Mercher, 18 Rhagfyr 2019
Trinity College London

Dyddiad Cau: Sul, 29 Medi 2019
Darpar-ddyddiadau Arholiad : Llun, 25 Tachwedd tan Gwener, 29 Tachwedd 2019
Trinity College London – Roc a Phop

Dyddiad Cau: Sul, 29 Medi 2019
Darpar-ddyddiadau Arholiad: Llun, 2 Rhagfyr tan Mawrth, 3 Rhagfyr 2019
Rockschool

Dyddiad Cau: Sul, 6 Hydref 2019
Darpar-ddyddiadau Arholiad: Iau, 5 Rhagfyr 2019