Gweithgareddau Cwricwlwm Estynedig
Yn ogystal â’r rhaglen wersi offerynnol, rydym hefyd yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau i wella ansawdd darpariaeth gerddoriaeth ysgolion. Mae hyn yn cynnwys:
- cyfarwyddo ymarferion ensembles cerddorol
- cyfeiliant piano mewn gwasanaethau, ymarferion côr, arholiadau cerddoriaeth, cyngherddau a gwyliau
- cymorth offerynnol ar gyfer cyngherddau, gwyliau a chyflwyniadau dawnsio gwerin
- beirniadu mewn eisteddfodau
- recordio ensembles a chyngherddau ysgol yn broffesiynol
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â ni.