Gweithgareddau yn y dosbarth
Mae modd i ni ddarparu ystod o weithgareddau cwricwlwm yn y dosbarth, yn ogystal â gweithgareddau i blant y blynyddoedd cynnar a chlybiau ar ôl ysgol. Mae’r rhain yn cynnwys:
- dysgu cerddoriaeth yn yr ysgol ym mhob cyfnod allweddol
- cerddoriaeth werin draddodiadol Geltaidd (Cymreig)
- gweithgareddau offerynnau taro yn y dosbarth
- gweithdai, arddangosfeydd a chyflwyniadau offerynnau cerdd
- gweithdai jazz, byrfyfyrio, arwain, ysgol roc, a cherddoriaeth y byd
- gweithdai cwricwlwm cerddoriaeth a thechnoleg cerddoriaeth i ddisgyblion, yn seiliedig ar ofynion cwricwlwm cenedlaethol eich ysgol
- paratoi ar gyfer TGAU a lefel A – perfformio, cyfansoddi, hyfforddiant profion gwrando, technoleg cerddoriaeth a gallu cerddorol cyffredinol
- cyngor ynghylch addysg bellach a gyrfaoedd ym maes cerddoriaeth (profiad gwaith ar gael)
- cerddoriaeth greadigol i’r blynyddoedd cynnar (i blant 2-4 oed) trwy feithrinfeydd mewn ysgolion a darparwyr blynyddoedd cynnar eraill
- clybiau ar ôl ysgol
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â ni