Pres

Mae offerynau pres wedi eu gwneud o diwbiau metel (nid pres bob amser). Efallai eich bod chi’n meddwl mai synau mawr yn unig sydd ganddyn nhw, ond maen nhw’n gallu gwneud synau meddal a swynol hefyd. Maent yn gwneud eu sain pan fydd rhywun yn chwythu i mewn iddyn nhw.

  • Cornet
  • Trwmped
  • Trombôn
  • Corn Ffrengig
  • Tiwba
  • Ewffoniwm
  • Corn Tenor
  • Corn Flugel